1
Luc 9:23
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Ac efe a ddywedodd wrth bawb, os ewyllyssia neb ddyfod ar fy ôl i, gwaded ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
Cymharu
Archwiliwch Luc 9:23
2
Luc 9:24
Canys pwy bynnac a ewyllisio gadw ei fywyd a’i cyll ef: a phwy bynnac a gollo ei fywyd o’m hachos i a’i ceidw ef.
Archwiliwch Luc 9:24
3
Luc 9:62
A’r Iesu a ddywedodd wrtho: nid oes neb a’r a rydd ei law ar yr aradr, ac a edrycho ar ei ôl yn gymmwys i deyrnas Dduw.
Archwiliwch Luc 9:62
4
Luc 9:25
Canys pa lesâd i ddŷn er ennill yr oll fyd, a’i ddifetha ei hun, neu ei golli ei hun?
Archwiliwch Luc 9:25
5
Luc 9:26
Y neb y byddo yn gywilydd ganddo fyfi a’m geiriau, hwnnw fydd yn gywilydd gan Fab y dŷn pan ddelo yn ei ogoniant, ac [yng-ogoniant ei] Dad, a’r sanctaidd angelion.
Archwiliwch Luc 9:26
6
Luc 9:58
A’r Iesu a ddywedodd wrtho: y mae gan y llwynogod eu ffauau, a chan adar yr awyr eu nythod: eithr Mab y dŷn nid oes ganddo le i roi ei ben i lawr
Archwiliwch Luc 9:58
7
Luc 9:48
Ac a ddywedodd wrthynt: pwy bynnag a dderbyn y bachgennyn hwn yn fy enw i sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m anfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith oll, fydd mawr.
Archwiliwch Luc 9:48
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos