Yna yr addunodd Iacob adduned gan ddywedyd: os Duw fydd gyd a’m fi, ac a’m ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad i wisco:
A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhâd: yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.
A’r garrec ymma yr hon a ossodais yn ei sefyll a fydd yn dŷ Duw, ac o’r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymmu mi ai degymmaf ef i ti.