Yna y dywedodd Petr, Ananias, pa ham y llanwodd Satan dy galon i beri i ti ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân, a darn-guddio [rhan] o werth y tir?
Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di: a pha ham y gosodaist dy feddwl ar y peth hyn? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
Pan glybu Ananias y geiriau hyn, efe a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn mawr ar bawb a glybu hyn.