1
Marc 4:39-40
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
BWM1955C
Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?
Cymharu
Archwiliwch Marc 4:39-40
2
Marc 4:41
Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?
Archwiliwch Marc 4:41
3
Marc 4:38
Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?
Archwiliwch Marc 4:38
4
Marc 4:24
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.
Archwiliwch Marc 4:24
5
Marc 4:26-27
Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.
Archwiliwch Marc 4:26-27
6
Marc 4:23
Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
Archwiliwch Marc 4:23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos