1
Marc 1:35
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.
Cymharu
Archwiliwch Marc 1:35
2
Marc 1:15
A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.
Archwiliwch Marc 1:15
3
Marc 1:10-11
Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. A llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
Archwiliwch Marc 1:10-11
4
Marc 1:8
Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân.
Archwiliwch Marc 1:8
5
Marc 1:17-18
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.
Archwiliwch Marc 1:17-18
6
Marc 1:22
A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Archwiliwch Marc 1:22
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos