A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef: Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.