Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar y ddaiar, a geni merched iddynt, weled o feibion Duw ferched dynion, mai teg oeddynt: hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasent. A dywedodd yr Arglwydd Dduw, “Nid erys Fy Ysbryd I gyda’r dynion hyn yn dragywydd, o blegid mai cnawd ydynt hwy; eithr eu dyddiau a fyddant ugain mlynedd a chant.”
Cawri oedd ar y ddaiar y dyddiau hyny; ac wedi hyny, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hyny iddynt; dyma y cawri, y gwŷr enwog gynt.