Ydyn, maen nhw’n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! Yn lle addoli’r Duw bendigedig sy’n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi’u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.