Roedd gan bob un o’r creaduriaid chwe adain wedi’u gorchuddio’n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw’n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd:
“Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd
ydy’r Arglwydd Dduw Hollalluog,
yr Un oedd, ac sydd,
ac sy’n mynd i ddod.”