1
Salm 95:6-7
beibl.net 2015, 2024
Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo, mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD, ein Crëwr. Fe ydy’n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.
Cymharu
Archwiliwch Salm 95:6-7
2
Salm 95:1-2
Dewch, gadewch i ni ganu’n llawen i’r ARGLWYDD, a gweiddi’n mawl i’r Graig sy’n ein hachub! Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi’n uchel a chanu mawl iddo!
Archwiliwch Salm 95:1-2
3
Salm 95:3
Achos yr ARGLWYDD ydy’r Duw mawr, y Brenin mawr sy’n uwch na’r ‘duwiau’ i gyd.
Archwiliwch Salm 95:3
4
Salm 95:4
Mae mannau dyfna’r ddaear yn ei ddwylo, a chopaon y mynyddoedd hefyd!
Archwiliwch Salm 95:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos