1
Salm 40:1-2
beibl.net 2015, 2024
Ar ôl disgwyl yn frwd i’r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe’n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i’n gweiddi am help. Cododd fi allan o’r pwll lleidiog a’r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
Cymharu
Archwiliwch Salm 40:1-2
2
Salm 40:3
Roedd gen i gân newydd i’w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio’r ARGLWYDD.
Archwiliwch Salm 40:3
3
Salm 40:4
Mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr. Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy’n brolio’u hunain ac yn dweud celwydd.
Archwiliwch Salm 40:4
4
Salm 40:7-8
Felly dyma fi’n dweud, “O Dduw, dw i’n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i.
Archwiliwch Salm 40:7-8
5
Salm 40:11
Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i. Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
Archwiliwch Salm 40:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos