1
Philipiaid 4:6
beibl.net 2015, 2024
Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.
Cymharu
Archwiliwch Philipiaid 4:6
2
Philipiaid 4:7
Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Archwiliwch Philipiaid 4:7
3
Philipiaid 4:8
Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy’n wir ac i’w edmygu – am beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy’n haeddu ei ganmol.
Archwiliwch Philipiaid 4:8
4
Philipiaid 4:13
Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny.
Archwiliwch Philipiaid 4:13
5
Philipiaid 4:4
Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen!
Archwiliwch Philipiaid 4:4
6
Philipiaid 4:19
Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i’w rannu gyda ni sy’n perthyn i’r Meseia Iesu.
Archwiliwch Philipiaid 4:19
7
Philipiaid 4:9
Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi’u dysgu a’u gweld a’u clywed gen i. A bydd y Duw sy’n rhoi ei heddwch gyda chi.
Archwiliwch Philipiaid 4:9
8
Philipiaid 4:5
Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan.
Archwiliwch Philipiaid 4:5
9
Philipiaid 4:12
Dw i’n gwybod sut mae byw pan dw i’n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i’n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.
Archwiliwch Philipiaid 4:12
10
Philipiaid 4:11
Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi.
Archwiliwch Philipiaid 4:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos