1
Marc 10:45
beibl.net 2015, 2023
Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Cymharu
Archwiliwch Marc 10:45
2
Marc 10:27
Dyma Iesu’n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae’r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw’n gallu gwneud popeth!”
Archwiliwch Marc 10:27
3
Marc 10:52
Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.
Archwiliwch Marc 10:52
4
Marc 10:9
Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno!”
Archwiliwch Marc 10:9
5
Marc 10:21
Roedd Iesu wedi hoffi’r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Archwiliwch Marc 10:21
6
Marc 10:51
Dyma Iesu’n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?” “Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”
Archwiliwch Marc 10:51
7
Marc 10:43
Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu
Archwiliwch Marc 10:43
8
Marc 10:15
Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o’r rhai mae Duw’n teyrnasu yn eu bywydau.”
Archwiliwch Marc 10:15
9
Marc 10:31
Ond bydd llawer o’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a’r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”
Archwiliwch Marc 10:31
10
Marc 10:6-8
Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned.
Archwiliwch Marc 10:6-8
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos