1
Luc 12:40
beibl.net 2015, 2023
Rhaid i chi fod yn barod drwy’r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!”
Cymharu
Archwiliwch Luc 12:40
2
Luc 12:31
Gwnewch yn siŵr mai’r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.
Archwiliwch Luc 12:31
3
Luc 12:15
Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae’r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy’n rhoi bywyd go iawn i chi.”
Archwiliwch Luc 12:15
4
Luc 12:34
Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.
Archwiliwch Luc 12:34
5
Luc 12:25
Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!
Archwiliwch Luc 12:25
6
Luc 12:22
Yna dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w wisgo.
Archwiliwch Luc 12:22
7
Luc 12:7
Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.
Archwiliwch Luc 12:7
8
Luc 12:32
“Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi.
Archwiliwch Luc 12:32
9
Luc 12:24
Meddyliwch am gigfrain: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nac ysgubor – ac eto mae Duw’n eu bwydo nhw. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar!
Archwiliwch Luc 12:24
10
Luc 12:29
Felly peidiwch treulio’ch bywyd yn poeni am fwyd a diod!
Archwiliwch Luc 12:29
11
Luc 12:28
Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi?
Archwiliwch Luc 12:28
12
Luc 12:2
Bydd popeth sydd wedi’i guddio yn dod i’r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.
Archwiliwch Luc 12:2
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos