1
Luc 10:19
beibl.net 2015, 2024
Dw i wedi rhoi’r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi!
Cymharu
Archwiliwch Luc 10:19
2
Luc 10:41-42
“Martha annwyl,” meddai’r Arglwydd wrthi, “rwyt ti’n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”
Archwiliwch Luc 10:41-42
3
Luc 10:27
Meddai’r dyn: “ ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl nerth ac â’th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ ”
Archwiliwch Luc 10:27
4
Luc 10:2
Meddai wrthyn nhw, “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.
Archwiliwch Luc 10:2
5
Luc 10:36-37
“Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o’r tri fu’n gymydog i’r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?” Dyma’r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.” A dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna’r un fath.”
Archwiliwch Luc 10:36-37
6
Luc 10:3
Ewch! Dw i’n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid.
Archwiliwch Luc 10:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos