Dim ond i ti gyfaddef dy fai –
cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela
yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw
a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog,
cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai’r ARGLWYDD.
“‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Fi ydy’ch gŵr chi go iawn. Bydda i’n mynd â chi’n ôl i Seion – bob yn un o’r pentrefi a bob yn ddau o’r gwahanol deuluoedd.