1
Barnwyr 7:2
beibl.net 2015, 2024
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr.
Cymharu
Archwiliwch Barnwyr 7:2
2
Barnwyr 7:7
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i’n gwneud i’r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru’r dynion eraill i gyd adre.”
Archwiliwch Barnwyr 7:7
3
Barnwyr 7:3
Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi’n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl.
Archwiliwch Barnwyr 7:3
4
Barnwyr 7:4
“Mae’r fyddin yn dal yn rhy fawr,” meddai’r ARGLWYDD. “Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd gyda ti a phwy sydd ddim.”
Archwiliwch Barnwyr 7:4
5
Barnwyr 7:5-6
Felly dyma fe’n mynd â’r dynion i lawr at y dŵr. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu’r rhai sy’n llepian y dŵr fel mae ci’n gwneud oddi wrth y rhai sy’n mynd ar eu gliniau i yfed.” Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed.
Archwiliwch Barnwyr 7:5-6
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos