1
Eseia 51:12
beibl.net 2015, 2023
“Fi, fi ydy’r un sy’n eich cysuro chi! Pam wyt ti’n ofni dyn meidrol – pobl feidrol sydd fel glaswellt?
Cymharu
Archwiliwch Eseia 51:12
2
Eseia 51:16
Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
Archwiliwch Eseia 51:16
3
Eseia 51:7
Gwrandwch arna i, chi sy’n gwybod beth sy’n iawn, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw’n gwneud sbort.
Archwiliwch Eseia 51:7
4
Eseia 51:3
Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro’i hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i’w clywed ynddi, lleisiau’n diolch a sŵn canu.
Archwiliwch Eseia 51:3
5
Eseia 51:11
Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Archwiliwch Eseia 51:11
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos