Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,
ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.
Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;
dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’
Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o’r dwyrain,
yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.
Pan dw i’n dweud rhywbeth, mae’n siŵr o ddigwydd;
fi sydd wedi’i gynllunio, a bydda i’n siŵr o’i wneud!