1
Hebreaid 9:28
beibl.net 2015, 2024
buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy’n disgwyl yn frwd amdano.
Cymharu
Archwiliwch Hebreaid 9:28
2
Hebreaid 9:14
Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae’n glanhau’r gydwybod o’r pethau sy’n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu’r Duw byw! Mae’r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.
Archwiliwch Hebreaid 9:14
3
Hebreaid 9:27
Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny
Archwiliwch Hebreaid 9:27
4
Hebreaid 9:22
A dweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro drwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.
Archwiliwch Hebreaid 9:22
5
Hebreaid 9:15
Dyna pam mai fe ydy’r canolwr sy’n selio’r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu’r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau’r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i’r rhai sydd wedi’u galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi’u haddo iddyn nhw.
Archwiliwch Hebreaid 9:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos