A dyma’r ARGLWYDD yn ateb:
“Ysgrifenna’r neges yma yn glir ar lechi,
i’r negeswr sy’n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.
Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd;
mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd.
Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar –
mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.