1
Genesis 15:6
beibl.net 2015, 2024
Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
Cymharu
Archwiliwch Genesis 15:6
2
Genesis 15:1
Rywbryd wedyn, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi’n derbyn gwobr fawr.”
Archwiliwch Genesis 15:1
3
Genesis 15:5
A dyma’r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i’r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i’w cyfri.”
Archwiliwch Genesis 15:5
4
Genesis 15:4
Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
Archwiliwch Genesis 15:4
5
Genesis 15:13
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw’n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
Archwiliwch Genesis 15:13
6
Genesis 15:2
Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt os bydda i’n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i!
Archwiliwch Genesis 15:2
7
Genesis 15:18
Y diwrnod hwnnw dyma’r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o afon yr Aifft i afon fawr Ewffrates.
Archwiliwch Genesis 15:18
8
Genesis 15:16
Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy’r holl ddrwg mae’r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”
Archwiliwch Genesis 15:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos