1
Exodus 23:25-26
beibl.net 2015, 2024
Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e’n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi’n iach. Fydd yna ddim gwragedd sy’n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir.
Cymharu
Archwiliwch Exodus 23:25-26
2
Exodus 23:20
“Dw i’n mynd i anfon angel o’ch blaen chi, i’ch cadw chi’n saff pan fyddwch chi’n teithio, ac i’ch arwain i’r lle dw i wedi’i baratoi ar eich cyfer chi.
Archwiliwch Exodus 23:20
3
Exodus 23:22
Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i’n ddweud, bydda i’n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi.
Archwiliwch Exodus 23:22
4
Exodus 23:2-3
Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cyd-fynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud. A phaid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd.
Archwiliwch Exodus 23:2-3
5
Exodus 23:1
Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys.
Archwiliwch Exodus 23:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos