1
Deuteronomium 1:30-31
beibl.net 2015, 2024
Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o’ch blaenau chi! Bydd e’n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e’n gwneud yn yr Aifft! Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi’ch cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario’i fab!’
Cymharu
Archwiliwch Deuteronomium 1:30-31
2
Deuteronomium 1:11
A boed i’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i’ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a’ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud!
Archwiliwch Deuteronomium 1:11
3
Deuteronomium 1:6
“Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma’r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
Archwiliwch Deuteronomium 1:6
4
Deuteronomium 1:8
Mae’r tir yma i gyd i chi. Dyma’r tir wnes i addo ei roi i’ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a’i gymryd drosodd.’
Archwiliwch Deuteronomium 1:8
5
Deuteronomium 1:17
Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond i wrando ar bawb, beth bynnag fo’i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy’n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
Archwiliwch Deuteronomium 1:17
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos