1
Daniel 6:10
beibl.net 2015, 2024
Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi’i harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny’r grisiau, a’i ffenestri’n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna lle roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.
Cymharu
Archwiliwch Daniel 6:10
2
Daniel 6:22
Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau’r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i’n ddieuog yng ngolwg Duw – ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.”
Archwiliwch Daniel 6:22
3
Daniel 6:26-27
Dw i’n cyhoeddi fod pawb sy’n byw o fewn ffiniau’r deyrnas dw i’n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel. Fe ydy’r Duw byw ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth. Mae e’n achub ei bobl ac yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae wedi achub Daniel o afael y llewod!”
Archwiliwch Daniel 6:26-27
4
Daniel 6:16
Felly dyma’r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a’i fod i gael ei daflu i ffau’r llewod. Ond meddai’r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti’n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”
Archwiliwch Daniel 6:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos