Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam wyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân drwy gadw peth o’r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â’r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!”
Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a’r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau.