1
Actau 3:19
beibl.net 2015, 2024
Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi’n cael eu maddau.
Cymharu
Archwiliwch Actau 3:19
2
Actau 3:6
“Does gen i ddim arian i’w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i’w roi. Dw i’n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.”
Archwiliwch Actau 3:6
3
Actau 3:7-8
Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a’i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau’r dyn yr eiliad honno, a dyma fe’n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i’r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw.
Archwiliwch Actau 3:7-8
4
Actau 3:16
Iesu roddodd y nerth i’r dyn yma o’ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a’r ffaith ein bod ni’n credu ynddo sydd wedi’i wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.
Archwiliwch Actau 3:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos