Tra oedden nhw’n syllu i’r awyr yn edrych arno’n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw, a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi’n ei wneud yma yn syllu i’r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i’r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e’n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”