1
2 Brenhinoedd 2:9
beibl.net 2015, 2024
Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:9
2
2 Brenhinoedd 2:11
Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i’r nefoedd mewn chwyrlwynt.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:11
3
2 Brenhinoedd 2:10
Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i’n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe’i cei. Os ddim, gei di ddim.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:10
4
2 Brenhinoedd 2:14
Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:14
5
2 Brenhinoedd 2:12
Gwelodd Eliseus e, a dyma fe’n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o’i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a’u rhwygo’n ddau.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:12
6
2 Brenhinoedd 2:8
Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a’i rolio, a tharo’r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a dyma’r ddau’n croesi drosodd ar dir sych.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:8
7
2 Brenhinoedd 2:1
Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 2:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos