Wrth ddathlu’n frwd roedden nhw’n canu fel hyn:
“Mae Saul wedi lladd miloedd,
ond Dafydd ddegau o filoedd!”
Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd wedi gwylltio. “Maen nhw’n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau’i wneud e’n frenin!”