1
1 Brenhinoedd 19:12
beibl.net 2015, 2024
Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr.
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:12
2
1 Brenhinoedd 19:4
a cherdded yn ei flaen drwy’r dydd i’r anialwch. Yna dyma fe’n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na’m hynafiaid.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:4
3
1 Brenhinoedd 19:11
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo’r mynydd a’r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:11
4
1 Brenhinoedd 19:13
Pan glywodd Elias hyn, dyma fe’n lapio’i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti’n wneud yma Elias?”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:13
5
1 Brenhinoedd 19:9
Aeth i mewn i ogof i dreulio’r nos. Yna’n sydyn, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag e, “Be wyt ti’n wneud yma, Elias?”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:9
6
1 Brenhinoedd 19:8
Felly dyma fe’n codi, bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a chyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:8
7
1 Brenhinoedd 19:5
Yna dyma fe’n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:5
8
1 Brenhinoedd 19:7
Daeth angel yr ARGLWYDD ato eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:7
9
1 Brenhinoedd 19:10
A dyma fe’n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:10
10
1 Brenhinoedd 19:6
Edrychodd, ac roedd yna fara fflat wedi’i bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe’n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:6
11
1 Brenhinoedd 19:2
Yna dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i’r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:2
12
1 Brenhinoedd 19:18
A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:18
13
1 Brenhinoedd 19:19
Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda’r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:19
14
1 Brenhinoedd 19:21
Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ych oedd ganddo, a defnyddio’r gêr a’r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta. Yna dyma fe’n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:21
15
1 Brenhinoedd 19:20
A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam gyntaf, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 19:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos