Peidiwch caru’r byd a’i bethau. Os dych chi’n caru’r byd, allwch chi ddim bod yn caru’r Tad hefyd. Y cwbl mae’r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi’i gyflawni. O’r byd mae pethau felly’n dod, ddim oddi wrth y Tad.