1
1 Corinthiaid 2:9
beibl.net 2015, 2024
Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi’i baratoi i’r rhai sy’n ei garu.”
Cymharu
Archwiliwch 1 Corinthiaid 2:9
2
1 Corinthiaid 2:14
Os ydy’r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 2:14
3
1 Corinthiaid 2:10
Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi’i esbonio i ni – ac mae’r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!
Archwiliwch 1 Corinthiaid 2:10
4
1 Corinthiaid 2:12
A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 2:12
5
1 Corinthiaid 2:4-5
Dim llwyddo i’ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi’n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith! Rôn i eisiau i chi ymateb i rym Duw ei hun, dim i ryw syniadau oedd yn swnio’n ddoeth.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 2:4-5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos