A chènad i’r Arglwydd á lefarodd wrth Phylip, gàn ddywedyd, Cyfod, a dos tua ’r dëau, àr hyd y ffordd sydd yn myned i waered o Gaersalem i Gaza, yr hon sydd annghyfannedd. Ac efe á gyfododd, ac á gymerodd ei daith: ac, wele, rhyw swyddog Ethiopiaidd, pendefig i Gandace, brenines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd àr ei holl drysor hi, yr hwn á ddaethai i Gaersalem i addoli, oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Isaia. A dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. A Phylip wedi rhedeg i fyny, á’i clybu ef yn darllen yn y proffwyd Isaia, ac á ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac yntau á ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddeithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe á ddymunodd àr Phylip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. A’r rhan o’r ysgrythyr yr oedd efe yn ei darllen, oedd hon, “Efe á arweiniwyd i’r lladdfa, fel dafad; a fel y mae oen gèr bron ei gneifiwr yn fud; felly nid agorodd yntau ei enau. Yn ei ddarostyngiad ei gollfarn á gymhellwyd drwy drais, a phwy á ddysgrifia ei genedlaeth ef? oblegid tòrir ymaith ei fywyd ef oddar y ddaiar.” A’r swyddog gàn ateb Phylip, á ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae y proffwyd yn dywedyd hyn? – am dano ei hun, ai am rywun arall? Yna yr agorodd Phylip ei enau, a chàn ddechreu oddar yr ysgrythyr hon, á fynegodd iddo y Newydd da am Iesu. A fel yr oeddynt yn myned àr hyd y ffordd, hwy á ddaethant at ryw ddwfr, a’r swyddog á ddywedodd, Wele, ddwfr; beth sydd yn lluddias fy nhrochi? Ac efe á orchymynodd sefyll o’r cerbyd, a hwy á aethant i waered ill dau i’r dwfr Phylip a’r swyddog; ac efe á’i trochodd ef. A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd á gipiodd Phylip ymaith, a ni welodd y swyddog ef mwyach. Eithr Phylip á gaed yn Azotus: a chàn dramwy, efe á gyhoeddodd y Newydd da yn mhob dinas, hyd oni ddaeth efe i Gaisarea.