Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Gweithredoedd 3

A thra yr oedd efe yn dal gafael yn Mhedr ac Iöan, yr holl bobl á gydredasant atynt, wedi sỳnu yn ddirfawr, yn y porth à elwir porth Solomon. A Phedr pan welodd hyn, á atebodd i’r bobl, Israeliaid, paham yr ydych chwi yn rhyfeddu am hyn? neu paham yr ydych yn dàl eich golwg arnom ni, fel pe drwy ein gallu ein hunain, neu ein duwioldeb, y gwnaethem i hwn rodio? Duw Abraham, ac Isaac, a Iacob, Duw ein tadau ni, á ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn á draddodasoch chwi, ac á wrthodasoch yn ngwydd Pilat, pan oedd efe yn chwennych ei ollwng ef yn rydd; eithr chwi á wrthodasoch y Sant a’r Cyfiawn, ac á ddeisyfasoch roddi i chwi wr llofruddiog; a Thywysog y Bywyd á laddasoch, yr hwn á gododd Duw o feirw, o’r hyn yr ydym ni yn dystion; a’i enw ef, drwy ffydd yn ei enw ef, á nerthodd y dyn yma, à welwch, ac á adwaenoch chwi, ïe, y ffydd yr hon sy drwyddo ef, á roes iddo ef y cyflawn iechyd hwn yn eich gwydd chwi oll. Ac yn awr, frodyr, mi á wn mai drwy anwybodaeth y gwnaethoch, megys y gwnaeth eich llywiawdwyr chwi hefyd; eithr y pethau à ragfynegodd Duw drwy enau ei holl broffwydi, y dyoddefai y Messia, á gyflawnodd efe fel hyn. Diwygiwch, gàn hyny, a dychwelwch at Dduw, fel y dilëer felly eich pechodau; fel y delo amseroedd o adfywiant oddwrth bresennoldeb yr Arglwydd, ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn á ragfwriadwyd i chwi; yr hwn yn wir sy raid i’r nef ei gadw hyd amseroedd cyflawniad pob peth, y rhai á ddywedodd Duw drwy enau ei holl santaidd broffwydi, erioed. Moses yn wir á ddywedodd wrth y tadau, “Yr Arglwydd eich Duw á gyfyd i chwi broffwyd o’ch brodyr, megys myfi; iddo ef yr ufyddewch yn mhob peth à ddywedo efe wrthych: a bydd, pob enaid nid ufyddâo i’r proffwyd hwnw, á dòrir ymaith o blith y bobl.” Do, a’r holl broffwydi o Samuwel, a’r rhai gwedi, cynnifer ag á lefarasant, á ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. Chychwi ydych blant y proffwydi, a’r sefydliad à wnaeth Duw â’n tadau ni, gàn ddywedyd wrth Abraham, “Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaiar.” Duw gwedi cyfodi ei Fab, á’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, i’ch bendithio chwi, drwy droi pob un o honoch oddwrth eich drygioni.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Gweithredoedd 3