Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Gweithredoedd 22

Frodyr a thadau, gwrandewch fy ymddiheurad, yr wyf yn ei wneuthur wrthych yr awrhon. A phan glywsant mai yn y llafarwedd Hebreig yr oedd efe yn eu hanerch, hwy á roisant iddo osteg gwell: ac efe á ddywedodd, Gwr wyf fi, yn wir, o Iuddew, á aned yn Nharsus yn Nghilicia; ond wedi fy nwyn i fyny yn y ddinas hon, wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ol manylrwydd cyfraith ein tadau; gàn fod yn eiddigus dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddyw: yr hwn á erlidiais y ffordd hon hyd angeu; gàn rwymo gwŷr a gwragedd, a’u traddodi hwynt i garcharau: megys hefyd y mae yr archoffeiriad yn dyst i mi, a holl senedd y genedl: gàn y rhai hefyd wedi derbyn llythyrau at y brodyr, myfi á aethym i Ddamascus; i ddwyn y rhai oedd yno yn rwym i Gaersalem, fel y cosbid hwy. A dygwyddodd, a myfi àr fy nhaith, a gwedi dyfod yn agos i Ddamascus, yn nghylch hanner dydd, i oleuni mawr o’r nef felltènu o’m hamgylch; a mi á syrthiais àr y ddaiar, ac á glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Minnau á atebais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac yntau á ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu, o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. A’r rhai oedd gyda mi á welsant y goleuni, yn ddiau, ac á ddychrynasant; ond ni chlywsant yn eglur lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. A myfi á ddywedais, Arglwydd, beth á wnaf? A’r Arglwydd á ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus, ac yno y dywedir i ti am bob peth à osodwyd i ti iddeu gwneuthur. A phryd nad allwn weled, oherwydd gogoniant y goleuni hwnw; gàn gael fy nhywys gàn y rhai oedd gyda mi, myfi á ddaethym i Ddamascus. Ac un Ananias, gwr duwiol yn ol y gyfraith, yr hwn oedd a gair da iddo yn mhlith yr holl Iuddewon yn Namascus, wedi dyfod ataf, a sefyll yn fy ymyl, á ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, edrych i fyny. Ac, yn yr awr hòno, mi á edrychais i fyny arno ef. Ac efe á ddywedodd, Duw ein tadau ni á’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnw, ac i glywed llais o’i enau ef; canys ti á fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau à welaist ac á glywaist. Ac yr awrhon, beth yr wyt ti yn ei aros? Cyfod, a throcher di, a golch ymaith dy bechodau, gàn alw àr ei enw ef. A darfu, gwedi i mi ddyfod yn fy ol i Gaersalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg: a mi á’i gwelais ef, yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos àr frys allan o Gaersalem; o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi. A minnau á ddywedais, Arglwydd, hwy á wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn fflangellu yn y cynnullfëydd, y rhai à gredent ynot ti; a phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gèr llaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai à’i lladdent ef. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Dos ymaith, canys mi á’th anfonaf yn mhell at y Cenedloedd