Ar ol y pethau hyn, Paul á ymadawodd o Athen, ac á ddaeth i Gorinth; a gwedi iddo gael rhyw Iuddew, a’i enw Acwila, brodawr o Bontus, wedi dyfod yn ddiweddar o’r Eidal, gyda Phriscila ei wraig, (oblegid Clawd Caisar á orchymynasai i’r holl Iuddewon ymadael o Rufain,) efe á aeth atynt. A chàn ei fod o’r un gelfyddyd, efe á arosodd gyda hwynt, ac á weithiodd; canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd. Eithr efe á ymresymai yn y gynnullfa bob Seibiaeth, ac á ddarbwyllai yr Iuddewon a’r Groegiaid. A chygynted ag y daeth Silas a Thimothëus o Facedonia, Paul á ddirgymhellwyd gàn yr Ysbryd, ac á dystiolaethodd i’r Iuddewon, mai Iesu oedd y Messia. Hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe á ysgydwodd ei ddillad, ac á ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi àr eich pènau eich hunain! Glan ydwyf fi. O hyn allan mi á âf at y Cenedloedd. A gwedi myned allan oddyno, efe á aeth i dŷ un a’i enw Iustus, addolwr Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyfhwrdd â’r gynnullfa. A Chrispus, pènaeth y gynnullfa, á gredodd yn yr Arglwydd, efe a’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, drwy glywed, á gredasant, ac á drochwyd. Ond yr Arglwydd á ddywedodd wrth Baul, mewn gweledigaeth liw nos, Nac ofna, eithr llefara, a na fydd ddystaw; canys yr wyf fi gyda thi, a ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti; oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon. Ac efe á arosodd yno flwyddyn a chwech mis, gàn ddysgu gair Duw yn eu plith hwynt.