Dïau y ffigysbren ni flodeua,
Ac ni bydd cynnyrch ar y gwinwydd
Palla ffrwyth yr olewydden,
A’r meusydd, nid un a rydd gnwd;
Torir ymaith o’r gorlan y praidd,
Ac ni bydd eidion yn y beudŷ;
Eto myfi — yn yr Arglwydd y llawenychaf,
Gorfoleddaf yn Nuw fy Ngwaredwr