Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth,
I ti yn brydferth canwn;
Am dy gadernid, ein Duw mâd,
Yn wastad y’th ganmolwn.
NODIADAU.
Ymddengys yn debygol iawn mai salm o ddiolchgarwch am attebiad i’r weddi dros y brenin (sef Dafydd) yn y salm o’r blaen ydyw hon, wedi iddo ddychwelyd adref yn fuddugoliaethus o’i ryfel â Hadadezer a’r Syriaid. Cyflwynir hi fel hono i’r pencerdd i’w chanu gan gantorion y cyssegr, y rhai a ganasant y salm‐weddi hono drosto: ond wele yma un mwy na Dafydd — a rhai ymadroddion nad allasent gael eu cyflawni ynddo ef, nac yn neb, ond yn y Messïah ei hun; megys, “Gofynodd oes genyt, a rhoddaist iddo; ïe, hir oes, byth, ac yn dragywydd,” a “Gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol.” Canys er fod Dafydd yn fyw fel dyn, o ran ei enaid, nid yw mwyach yn fyw, fel brenin; ond y mae y Brenin y tystiolaethir am dano yma yn byw fel brenin byth ac yn dragywydd; a sicrheir iddo fuddugoliaeth lwyr ar ei holl elynion: “Canys rhaid iddo deyrnasu hyd oni osoder ei holl elynion dan ei draed.” Yr oedd buddugoliaethau Dafydd yn fath ar gysgodau o fuddugoliaethau Crist, drwy weinidogaethau ei ragluniaeth a’i air, ar ei holl elynion ysbrydol, ac o lwyddiant ei deyrnas ar y ddaear.