1
Lyfr y Psalmau 27:14
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
O disgwyl wrth Dduw mewn amynedd, Fe nertha dy lesgedd â’i law; Wrth Dduw, meddaf, O dal i ddisgwyl, Cyn hir, wrth ei ddisgwyl, fe ddaw.
Cymharu
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 27:14
2
Lyfr y Psalmau 27:4
Un peth yw taer weddi fy mywyd, A’i ofyn ’rwy ’n ddiwyd gan Dduw; Hyn fydd fy ngwastadol erfyniad, A thaeraf ddymuniad im’ yw; Cael byw yn Nhŷ ’r Arglwydd heb syflyd Drwy ’r cyfan o’m bywyd i’m bedd, I ganfod ei harddwch gogoned, A ’mofyn am weled ei wedd.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 27:4
3
Lyfr y Psalmau 27:1
Fy iechyd yw Duw, a’m goleuni, Rhag pwy rhaid im’ ofni mewn braw? Nerth f’ einioes yw Duw a’i amddiffyn, Pa elyn i’w ddychryn a ddaw?
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 27:1
4
Lyfr y Psalmau 27:13
Yn fuan y llwyr ddiffygiaswn Pe ’n llwyr na chredaswn i’m Duw, Y gwelwn ei ddawn a’i drugaredd O’r diwedd yn nhir y rhai byw.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 27:13
5
Lyfr y Psalmau 27:5
Pe llu a wersyllai i’m herbyn, Nid ofnwn er hyn ei sarhâd; Hyderus yw ’m calon o herwydd Mai ’m nodded yw ’r Arglwydd a’i rad: Fe ’m cuddia fi ’n nydd brad a dichell, Ei gafell yn gastell a gaed; Ei babell fydd immi ’n orchuddiad, Ar graig y bydd rhodiad fy nhraed.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 27:5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos