1
Ioan 3:16
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
canys cymaint y carodd Duw y byd ag y rhoes ei uniganedig fab fel na chyfrgoller neb a gredo ynddo, ond cael ohono fywyd tragwyddol
Cymharu
Archwiliwch Ioan 3:16
2
Ioan 3:17
oherwydd ni ddanfonodd Duw y mab i’r byd er mwyn barnu’r byd, ond er mwyn achub y byd drwyddo ef.
Archwiliwch Ioan 3:17
3
Ioan 3:3
Atebodd Iesu, a dywedodd wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni enir dyn yr eilwaith, ni all weled teyrnas Dduw.”
Archwiliwch Ioan 3:3
4
Ioan 3:18
Y neb a gredo ynddo nis bernir; y neb nid yw’n credu, y mae ef wedi ei farnu eisoes, am nad yw wedi credu yn enw uniganedig fab Duw.
Archwiliwch Ioan 3:18
5
Ioan 3:19
A dyma’r farn, bod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd mai drygionus oedd eu gweithredoedd.
Archwiliwch Ioan 3:19
6
Ioan 3:30
Am hwn, rhaid iddo gynyddu, ac i minnau leihau.”
Archwiliwch Ioan 3:30
7
Ioan 3:20
Canys y mae pob un sy’n gwneuthur pethau drwg yn cashau’r goleuni, ac ni ddaw at y goleuni rhag dadlennu ei weithredoedd.
Archwiliwch Ioan 3:20
8
Ioan 3:36
Yr hwn sy’n credu yn y mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo, ond am yr hwn sydd yn anghredu yn y mab, ni wêl ef fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
Archwiliwch Ioan 3:36
9
Ioan 3:14
Ac fel y dyrchafodd Moesen y sarff yn yr anialwch, felly ei ddyrchafu sydd yn rhaid i fab y dyn
Archwiliwch Ioan 3:14
10
Ioan 3:35
Y mae’r tad yn caru’r mab, ac wedi rhoddi popeth yn ei law.
Archwiliwch Ioan 3:35
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos