Ond dywedodd Pedr, “Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon i dwyllo’r Ysbryd Glân a chadw peth o’r tâl am y tir? O adael iddo, onid gennyt ti yr arhosai? Ac o’i werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl? Pa fodd y gosodaist dy fryd ar y weithred yma? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.” Ac wrth glywed y geiriau hyn, syrthiodd Ananias a threngodd; ac aeth ofn mawr ar bawb a glywai.