1
Diarhebion 19:21
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 19:21
2
Diarhebion 19:17
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.
Archwiliwch Diarhebion 19:17
3
Diarhebion 19:11
Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.
Archwiliwch Diarhebion 19:11
4
Diarhebion 19:20
Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.
Archwiliwch Diarhebion 19:20
5
Diarhebion 19:23
Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.
Archwiliwch Diarhebion 19:23
6
Diarhebion 19:8
A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.
Archwiliwch Diarhebion 19:8
7
Diarhebion 19:18
Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.
Archwiliwch Diarhebion 19:18
8
Diarhebion 19:9
Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.
Archwiliwch Diarhebion 19:9
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos