1
Barnwyr 16:20
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr ARGLWYDD wedi cilio oddi wrtho.
Cymharu
Archwiliwch Barnwyr 16:20
2
Barnwyr 16:28
A Samson a alwodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O Arglwydd IÔR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O DDUW, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad.
Archwiliwch Barnwyr 16:28
3
Barnwyr 16:17
Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i DDUW ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
Archwiliwch Barnwyr 16:17
4
Barnwyr 16:16
Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw
Archwiliwch Barnwyr 16:16
5
Barnwyr 16:30
A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.
Archwiliwch Barnwyr 16:30
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos