1
2 Brenhinoedd 4:2
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:2
2
2 Brenhinoedd 4:1
A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr ARGLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:1
3
2 Brenhinoedd 4:3
Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:3
4
2 Brenhinoedd 4:4
A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:4
5
2 Brenhinoedd 4:6
Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:6
6
2 Brenhinoedd 4:7
Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr DUW. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:7
7
2 Brenhinoedd 4:5
Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:5
8
2 Brenhinoedd 4:34
Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:34
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos