Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.