A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd. Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i ti.