Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 80

O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni; Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared. SALM LXXX Yn y De a chan Ddeheuwyr y cyfansoddwyd y rhan fwyaf o’r Salmau, ond dyma Salm gan Ogleddwr, ac at gyfyngder y Deyrnas Ogleddol y cyfeirir efallai. Ond deil amryw o ysgolheigion mai ym Mabilon y canwyd hi, a chyfeiriad sydd yma at ddinistr Ieriwsalem, ond anodd ydyw cysoni’r farn hon ag adnodau 12 a 13. 1—3. Y Deyrnas Ogleddol a feddylir wrth Ioseff, a’i ddau fab, Ephraim a Manasse yn cynrychioli prif lwythau’r Gogledd. I’r De y perthynai Benjamin, a dodwyd ef yma oherwydd y disgwyl am aduno’r ddwy deyrnas. Cyfeiriad at yr adeg pan gludwyd Arch Duw i ryfel, ac yntau yn arwyddo ei bresenoldeb ar y Drugareddfa rhwng y Ceriwbim (1 Sam. 4:4). Nid gweddi am ddychweliad o’r Gaethglud sydd yma, ond yn hytrach am i Dduw adfer yr hen ddyddiau da, ac amlygu eto ei allu drwy wasgar y gelynion. Digwydd byrdwn 3 ar ôl 6 ac 18, ond dylid ei adfer ar ôl 10 a 13 hefyd. 4—7. Nid ydyw eu gweddïau yn tycio dim, canys digyffro ydyw Duw. Y mae rhan olaf adnod 5 yn anodd, ond rhyw fesur mawr a feddylir. Y mae eu diymadferthwch yn destun crechwen i’r cenhedloedd o’u cwmpas. 8—10. Am Israel fel gwinwydden gwêl Gen. 49:22 ac Es. 5:1-7. Gwthiwyd y cenhedloedd allan o Ganaan o flaen Israel, a sefydlwyd hi yn y tir. Cedrwydd Duw, dull Hebreig o ddywedyd cedrwydd mawreddog. Gormodiaith bardd sydd yn 10 yn dangos fel y llwyddodd Duw ei genedl ddewisol. 11—13. Y Môr Canoldir oedd yr unig fôr y gwyddai Israel am dano, a saif yma am y Gorllewin, ac o’r Gorllewin hwn hyd afon Ewffrates yr ymestynnai teyrnas Dafydd yn ôl 2 Sam. 8:3. Y teithwyr ydyw’r cenhedloedd cylchynol sydd wedi croesi y ffiniau i ddifrodi Israel a’i gwneud yn sarn. Yn ôl rhai esbonwyr saif y baedd am yr Aifft. 14—19. — Gweddi am adfer unwaith eto yr amser da gynt, ac am i gerydd yr Arglwydd ddinistrio’r neb sy’n difrodi gwinwydden Israel. Israel a feddylir yn 17, a dichon dodi’r geiriau hyn yma er mwyn rhoddi ystyr Mesiaidd i’r Salm. Addewir ffyddlondeb diwyro i’r Arglwydd os gwrendy ar y weddi. 1. A ddylid gweddïo ar Dduw i lwyddo byddinoedd gwlad mewn rhyfel? (1—3). 2. Cymherwch y defnydd a wna’r Salm hon o ffigur y winwydden a’r defnydd a wna’r Arglwydd Iesu ohoni yn Ioan 15:1-8. 3. Erfynnir yma am adfer yr ‘hen amser da gynt’. A oes gwerth mewn dymuno hynny? Onid tuedd pob oes ydyw meddwl fod y dyddiau a fu yn well na’r dyddiau sydd? 4. A atebwyd gweddi’r Salmydd? Ai mantais i wareiddiad fydd ailsefydlu’r Iddew ym Mhalesteina, ac adfer iddo ei hen winllan?