Ac i’r rhai a gredant, yr arwyddion hyn a’u canlynant: Yn Fy enw y bwriant allan gythreuliaid; a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt.