1
S. Luc 8:15
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
A’r hwn ar y tir da, y rhai hyn yw’r rhai wedi iddynt a chalon fad a da glywed y Gair, a’i cadwant, ac a ddygant ffrwyth gydag amynedd.
Cymharu
Archwiliwch S. Luc 8:15
2
S. Luc 8:14
A’r hwn a syrthiodd ym mysg y drain, y rhai hyn yw’r rhai a glywsant, a chan ofalon a golud a phleserau buchedd, wrth fyned eu ffordd, y’u tagir, ac ni ddygant ffrwyth i berffeithrwydd.
Archwiliwch S. Luc 8:14
3
S. Luc 8:13
A’r rhai ar y graig yw y rhai pan glywont, a dderbyniant y Gair gyda llawenydd; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai am amser y credant, ac yn amser profedigaeth y ciliant.
Archwiliwch S. Luc 8:13
4
S. Luc 8:25
a pheidiasant, a bu tawelwch: a dywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd? Ac wedi eu dychrynu rhyfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan mai i’r gwyntoedd y gorchymyn, ac i’r dwfr; ac ufuddhant Iddo?
Archwiliwch S. Luc 8:25
5
S. Luc 8:12
A hon yw’r ddammeg: Yr had yw Gair Duw; a’r rhai ar ymyl y ffordd yw y rhai a glywsant; gwedi’n dyfod y mae diafol, ac yn dwyn ymaith y Gair o’u calon, rhag, wedi credu o honynt, iddynt fod yn gadwedig.
Archwiliwch S. Luc 8:12
6
S. Luc 8:17
canys nid oes dim dirgel na ddaw yn amlwg, na chuddiedig na wybyddir ac na ddaw i’r amlwg.
Archwiliwch S. Luc 8:17
7
S. Luc 8:47-48
A chan weled o’r wraig nad oedd hi guddiedig, dan grynu y daeth, ac wedi syrthio ger Ei fron, mynegodd yngwydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag Ef, ac fel yr iachasid hi yn uniawn. Ac Efe a ddywedodd wrthi, O ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
Archwiliwch S. Luc 8:47-48
8
S. Luc 8:24
ac wedi dyfod Atto, deffroisant Ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, ar ddarfod yr ydym. Ac Efe wedi deffro a ddwrdiodd y gwynt a’r tonnau dwfr
Archwiliwch S. Luc 8:24
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos